Datganiad hygyrchedd ar gyfer Neilltuo rhif cofrestru i gerbyd
Rheolir y wefan hon gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Rydym am i gymaint o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testum y wefan mor syml â phosibl i’w deall.
Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- Nid oes gan rai elfennau o’r ffurflen label cysylltiedig a fydd yn achosi anawsterau i ddefnyddwyr darllenydd sgrin, yn ogystal â pheidio a bod yn hygyrch i ddefnyddwyr Actifadu Llais trwy orchmynion llais safonol.
- Ceir rhai enghreifftiau o benawdau wedi’u marcio’n anghywir, gan ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ddeall strwythur y dudalen, yn ogystal â gallu nodi cynnwys y dudalen yn glir.
- Gall rhai enghreifftiau o liw a ddefnyddir i nodi cynnwys rhyngweithiol achosi anhawster i ddefnyddwyr â golwg gwan ryngweithio â’r cynnwys hwn.
- Roedd y cynnwys yn aneglur ar ffôn symudol oherwydd newidiwyd maint testun yn anghywir; roedd hyn yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr â golwg gwan weld y cynnwys ar y dudalen
- Gall rhai enghreifftiau o ddiffyg amlygu ffocws, a allai effeithio ar ddefnyddwyr sydd â nam Symudedd
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd i’w ddarllen, recordio sain neu braille:
E-bostiwch ein tîm Cyfathrebu Allanol a byddwn yn gweld a allwn helpu, neu cysylltwch â’n Canolfan Gyswllt trwy:
- e-bost
- Ffôn 0300 790 6802 neu 0300 790 6819 am y llinell uniongyrchol Gymraeg
- sgwrs ar-lein
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â’r: Rheolwr Gwasanaeth Cerbydau Anthony.bamford@dvla.gov.uk
Gweithdrefn gorfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nid yw’r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd
- Nid oes gan rai delweddau destun amgen clir i ddisgrifio eu pwrpas, mae hyn hefyd yn bresennol o fewn y ddogfen PDF, felly bydd rhai defnyddwyr darllenydd sgrin yn cael anhawster cyrchu’r wybodaeth. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.1.1 (cynnwys heb destun).
Rydym yn bwriadu ychwanegu testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Nid yw rhai tudalennau yn cynnwys penawdau lefel 1, nid oes ganddynt brif iaith wedi’i gosod ac mae ganddynt labelu aneglur a fydd yn ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin ddeall ystyr a chynllun y tudalennau, llwytho’r ynganiad cywir a nodi pwrpas rhai meysydd sy’n ofynnol i’w cwblhau. Mae’r achosion hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.3.1 (gwybodaeth a pherthnasoedd).
Rydym yn bwriadu ychwanegu penawdau lefel 1, gosod prif iaith a labelu i bob tudalen a dogfen erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod y defnydd o labelu, penawdau ac ieithoedd yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Nid yw rhai dolenni sy’n cynnig gwybodaeth estynedig yn cyhoeddi a yw’r wybodaeth wedi’i hehangu neu’i lleihau, gall hyn fod yn anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin gan fod diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn mae’r ddolen yn ei wneud wrth ei hactifadu. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.3.3 (nodweddion synhwyraidd)
Rydym yn bwriadu sicrhau bod yr holl ddolenni sy’n cynnig testun estynedig yn cael eu cyhoeddi’n glir erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod y defnydd o destun estynedig yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Nid yw peth testun yn bodloni safonau WCAG o ran cyferbynnedd a all ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr golwg gwan. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.3 (cyferbynnedd lleiaf).
Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau fel bod yr holl gyferbynnedd trwy’r wefan yn bodloni WGAC 2.1 erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod yr holl destun yn bodloni’r safon cymhareb cyferbynnedd 4.5:1
- Wrth lywio mewn golwg tirlun ar ddyfais symudol, weithiau gall testun orgyffwrdd â’r eiconau gwybodaeth. Mae hyn yn golygu y gallai pob defnyddiwr gael anhawster darllen y cynnwys ar y dudalen. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.10 (Ail-lifo)
Rydym yn bwriadu sicrhau y gellir defnyddio’r holl sgriniau a’r tudalennau ar ffonau symudol erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn gydnaws â dyfeisiau symudol i fodloni safonau hygyrchedd
- Nid yw cyferbynnedd nad yw’n ymwneud â thestun yn bodloni safonau, gallai defnyddwyr bysellfwrdd sydd â diffygion gweledol gael anawsterau wrth weld amlinelliad y ffocws. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw’n Ymwneud â Thestun)
Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau fel bod yr holl gyferbynnedd nad yw’n ymwneud â thestun ar draws y wefan yn bodloni WGAC 2.1 erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys heb destun, byddwn yn sicrhau bod ganddo gymhareb cyferbynnedd o leiaf 3:1 yn erbyn lliw(iau) cyfagos.
- Nid yw rhai eiconau a ddefnyddir ar gyfer gwybodaeth yn derbyn ffocws, a all achosi problemau i ddefnyddwyr bysellfwrdd yn unig. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.1.1 (Bysellfwrdd)
Rydym yn bwriadu gwneud newidiadau i bob eicon trwy gyflwyno ffocws clir fel bod y wefan yn bodloni WGAC 2.1 erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn defnyddio eiconau, byddwn yn sicrhau eu bod yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Mae peth cynnwys yn hygyrch i ddefnyddwyr llygoden yn unig. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.1.3 (Bysellfwrdd - Heb eithriadau)
Rydym yn bwriadu gwneud y wefan yn hygyrch i’r holl ddefnyddwyr gan gynnwys defnyddwyr bysellfwrdd yn unig erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Nid yw neidio cynnwys yn hawdd ar bob tudalen a dogfen. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.1 (Blociau neidio)
Rydym yn bwriadu sicrhau bod pob tudalen yn hawdd ei llywio yn enwedig wrth neidio gwybodaeth erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni’r safonau hygyrchedd.
- Ceir enghraifft o ddolen delwedd na roddwyd testun amgen clir iddo ac nid yw’n hygyrch i ddefnyddwyr darllenydd sgrin. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.4 (Pwrpas Dolen).
Rydym yn bwriadu sicrhau bod gan bob dolen destun amgen clir erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Nid yw rhai meysydd wedi’u labelu’n glir a all achosi dryswch i ddefnyddwyr darllenydd sgrin, a fydd yn ansicr am yr hyn y disgwylir iddynt ei nodi. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.6 (Penawdau a labeli)
Rydym yn bwriadu sicrhau bod pob maes wedi’i labelu’n gywir erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod pob maes sydd wedi’i labelu’n bodloni safonau hygyrchedd.
- Ceir enghreifftiau lle nad yw amlygu ffocws yn bresennol ar rai tudalennau a meysydd o fewn y gwasanaeth - gallai defnyddwyr golli ffocws ar y dudalen a gallai hyn achosi dryswch. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.7 (Ffocws Gweladwy).
Rydym yn bwriadu ychwanegu amlygu ffocws at bob tudalen a maes o fewn y gwasanaeth erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Ceir rhai enghreifftiau o strwythur pennawd afresymegol sy’n ei gwneud hi’n anodd i ddefnyddwyr darllenydd sgrin benderfynu ar gynllun a pherthnasoedd rhwng gwahanol adrannau o’r cynnwys. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.10 (Adran Penawdau).
Rydym yn bwriadu gwneud pob pennawd trwy’r wefan yn rhesymegol ac yn ddilyniannol erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau ei fod yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Ceir enghreifftiau lle nad oes testun awgrym penodol uwchben meysydd ac ni wneir defnyddwyr yn ymwybodol o’r wybodaeth benodol sy’n ofynnol tan eu bod yn mewnbynnu rhywbeth yn anghywir ac yn cael eu procio gan wall. Mae hyn yn achosi dryswch i’r holl ddefnyddwyr ac yn ychwanegu at yr amser y mae’n ei gymryd i lenwi’r ffurflen. Mae’r achosion hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau)
Rydym yn bwriadu ychwanegu awgrym testun at bob maes sy’n gofyn am wybodaeth benodol i gael ei ychwanegu erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod yr awgrym testun a gwallau’n bodloni safonau hygyrchedd
- Ceir rhai enghreifftiau lle nad yw’n nodi sut i ddatrys gwallau a wneir tra’n cwblhau’r ffurflen; gallai hyn achosi dryswch i bob defnyddiwr gan y byddant yn ansicr sut i gywiro gwallau. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 3.3.3 (Awgrymu Gwallau).
Rydym yn cynllunio ychwanegu awgrymiadau testun a negeseuon gwall clir i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â safonau GDS erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod pob neges gwall yn bodloni safonau hygyrchedd.
- Trwy’r safle, mae testunau awgrym yn dod o dan y meysydd mewnbwn, bydd hyn yn achosi anhawster i ddefnyddwyr darllenydd sgrin gan na fyddant yn gwybod ymlaen llaw yr hyn sy’n ofynnol ar gyfer pob un o’r meysydd mewnbwn cyn cael mynediad. Mae’r enghreifftiau hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1, 3.3.5 (Cymorth).
Rydym yn cynllunio ychwanegu awgrymiadau testun uwchben y meysydd mewnbwn trwy’r safle gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau GDS erbyn mis Mai 2021. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd, byddwn yn sicrhau bod pob testun awgrym yn cael ei leoli’n gywir i fodloni safonau hygyrchedd.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFau a dogfennau eraill
Darperir y wybodaeth hon yn ein Polisi dogfennau hygyrchedd.
Fideo byw
Nid ydym yn cynllunio ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi’i eithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn gweithio i wella hygyrchedd ei holl wasanaethau. Diweddarir ein gwasanaethau mwy newydd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau Hygyrchedd yn ystod 2020 i yn gynnar yn 2021. Adolygir ein gwasanaethau hŷn ar hyn o bryd gyda’r nod i’w disodli gyda gwasanaethau mwy hygyrch syml yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar Fedi 11eg 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar Fawrth 1af 2021.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar Ebrill 27ain 2020. Cafodd y prawf ei gynnal gan Digital Accessibility Centre Limited.
Profwyd 4 taith cwsmer a oedd yn cwmpasu llwybrau hapus ac anhapus. Sicrhaodd y dull hwn fod gennym amrywiaeth o senarios defnyddwyr i brofi hygyrchedd yn effeithiol.
Taith 1: aseiniad llwyddiannus cynhwysol
Taith 2: taith a gynhyrchwyd gan system, a achoswyd gan wall gan fod peth gwybodaeth wedi’i gadael yn wag e.e. blwch rhif cofrestru rydych am ei ychwanegu ac ai chi yw grantî neu brynwr y rhif cofrestru hwn.
Taith 3: taith a gynhyrchwyd gan system, a achoswyd gan wall gan na fewnbynnodd y cwsmer fanylion tystysgrif yn gywir.
Taith 4: Arddangosir tudalen gwybodaeth ceidwaid, ac arddangosir gwybodaeth cwsmeriaid yn anghywir.