Telerau ac Amodau
Mae’r Telerau ac Amodau hyn yn llywodraethu’ch defnydd o wefan Rheoli Cerbydau a Chofrestru Personol Cerbydau Ar-Lein DVLA a’ch perthynas â’r wefan hon. Darllenwch hwy yn ofalus gan eu bod yn effeithio ar eich hawliau a’ch rhwymedigaethau o dan y gyfraith. Os nad ydych yn cytuno â’r Telerau ac Amodau hyn, peidiwch â defnyddio’r wefan hon.
Mynediad at y gwasanaeth
Er mwyn diogelu’ch data personol, byddwn yn gwneud gwiriadau i wirio’ch hunaniaeth cyn i ni rannu gwybodaeth am gofrestru cerbyd ag unrhyw un.
Bydd arnoch angen y rhif cofrestru, y cyfeirnod 11 digid o’r dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) diweddaraf a chod post ceidwad y cerbyd er mwyn cael mynediad at y gwasanaethau hyn. Os na allwn wirio’ch hunaniaeth, ni fyddwch yn gallu cael mynediad at y gwasanaeth.
Dim ond os ydych chi wedi’ch awdurdodi i wneud hynny y dylech geisio cael mynediad at y gwasanaethau hyn h.y. chi yw’r ceidwad cofrestredig neu’n fasnachwr cerbyd a bod gennych ganiatâd y ceidwad.
Bydd gan staff awdurdodedig DVLA fynediad at yr wybodaeth hon hefyd er mwyn ymdrin ag ymholiadau cwsmeriaid a darparu cymorth technegol.
Defnyddio’r Wefan hon
Mae DVLA yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth a gyhoeddir ar y wefan hon yn gywir. Fodd bynnag, ni all DVLA dderbyn unrhyw atebolrwydd am y cywirdeb neu’r cynnwys. Mae ymwelwyr sy’n dibynnu ar y wybodaeth hon yn gwneud hynny ar eu cyfrifoldeb eu hunain.
Dylai’r gwasanaeth hwn fod ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 7am i 9pm a dydd Sadwrn i ddydd Sul 7am i 8pm. Ni allwn warantu na fydd unrhyw namau gyda’r gwasanaeth. Os bydd nam yn digwydd, byddwn yn ceisio cywiro’r nam cyn gynted ag y gallwn o fewn rheswm.
Sut rydym ni’n defnyddio’ch gwybodaeth?
Mae’r wybodaeth a gasglwn amdanoch chi yn dibynnu ar y gwasanaethau ar-lein yr ydych yn gofyn amdanynt.
Rydym yn casglu gwybodaeth berthnasol gan ymwelwyr i’r wefan hon: adborth (trwy ymwelwyr sy’n cwblhau holiaduron adborth neu anfon e-bost atom) neu wybodaeth am y defnydd o’r safle, gan gwcis a thagio tudalennau. Rydym hefyd yn storio cyfeiriadau e-bost a ddarperir fel rhan o’r gwasanaethau hyn er mwyn cadarnhau’r trafodyn yn unig.
Lle mae Gwe-sgwrs ar gael ar y gwasanaethau hyn ac rydych chi’n dewis defnyddio’r swyddogaeth hon, bydd eich cyfeiriad e-bost hefyd yn cael ei gadw am 3 mis fel rhan o hanes cyswllt eich Gwe-sgwrs.
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei gyflenwi i ni i ddatblygu unrhyw fusnes trwyddedu gyrwyr a cherbydau. Efallai y byddwn yn gwirio’r wybodaeth yr ydych yn ei darparu i ni i weld sut mae’n cymharu â’r wybodaeth sydd gennym eisoes (er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn i chi am eich enw, eich dyddiad geni a’ch cyfeiriad fel y gallwn ddod o hyd i’ch cofnod).
Diogelwch
Mae DVLA yn ystyried diogelwch yn ddifrifol iawn. Mae DVLA yn cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu’r data personol sydd ar gael drwy’r gwasanaethau hyn yn unol â deddfwriaeth diogelu Data.
Cedwir data mewn amgylchedd diogel sy’n bodloni safonau diogelwch y diwydiant a’r Llywodraeth.
Mae nifer o nodweddion diogelwch yn eu lle i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol wrth gael ei chludo o’ch cyfrifiadur i’r gwasanaeth. Fodd bynnag, nid yw trosglwyddo data dros y rhyngrwyd yn hollol ddiogel ar y cyfan, ac ni allwn warantu diogelwch eich data.
Monitro defnydd o’r gwasanaeth
Bydd DVLA yn cadw llwybr archwilio o ymdrechion llwyddiannus ac aflwyddiannus i gael mynediad at wybodaeth am gofnodion eich cerbyd a bydd yn monitro’r defnydd o’r gwasanaeth. Mae hyn i helpu i atal a chanfod mynediad heb awdurdod.
Hypergysylltu
Ein polisi yw cael caniatâd i gysylltu â gwefannau eraill. Nid yw DVLA yn gyfrifol am gynnwys na dibynadwyedd y gwefannau sydd wedi’u cysylltu a nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo’r safbwyntiau a fynegir arnynt. Ni ddylid ystyried y rhestrau fel cymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn warantu y bydd y dolenni hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym unrhyw reolaeth dros argaeledd y tudalennau sydd wedi’u cysylltu.
Cardiau Talu
Derbynnir cardiau debyd a chredyd ar gyfer taliadau ar y wefan hon. Trosglwyddir gwybodaeth am gardiau yn unol â’n datganiad diogelwch.
Gwybodaeth am Ddefnyddio’r Safle
Mae ffeiliau log yn ein caniatáu i gofnodi sut mae ymwelwyr yn defnyddio’r wefan hon, ac rydym yn defnyddio hyn i wneud gwelliannau i gynllun y wefan ac i’r wybodaeth arni, yn seiliedig ar y ffordd y mae ymwelwyr yn llywio o’i chwmpas. Nid yw ffeiliau log yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi.
Polisïau Cwcis ar-lein
Pan fyddwn yn darparu gwasanaethau, rydym am eu gwneud yn hawdd, defnyddiol a dibynadwy. Pan ddarperir gwasanaethau ar y Rhyngrwyd, weithiau mae hyn yn golygu gosod ychydig bach o wybodaeth ar eich dyfais, er enghraifft, cyfrifiadur neu ffôn symudol. Mae’r rhain yn cynnwys ffeiliau bach o’r enw cwcis. Ni ellir eu defnyddio i’ch adnabod chi yn bersonol.
Defnyddir y darnau o wybodaeth hyn i wella gwasanaethau i chi trwy, er enghraifft:
galluogi gwasanaeth i adnabod eich dyfais felly does dim rhaid i chi roi’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg gan gydnabod efallai eich bod eisoes wedi rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair felly nid oes angen i chi ei wneud ar gyfer pob tudalen we y gofynnwyd amdano i fesur sawl person sy’n defnyddio gwasanaethau, fel y gellir eu gwneud yn haws i’w defnyddio ac mae digon o gynhwysedd i sicrhau eu bod yn gyflym.
Gallwch chi ffurfweddu eich gwe-borwr i wrthod cwcis. Nodwch efallai na fyddwch yn gallu cael mynediad at neu ddefnyddio rhai nodweddion o’r wefan hon os byddwch chi’n gwrthod cwci. Darllenwch y polisi cwcis i gael mwy o wybodaeth.
Ymwadiad
Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod gan ddefnyddwyr y gwasanaeth hwn, boed hynny’n uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, boed yn achos camwedd, torri contract neu fel arall, mewn cysylltiad â’n gwefan, ei ddefnydd, yr anallu i’w defnyddio, neu ganlyniadau’r defnydd o’n gwefan, unrhyw wefannau sydd yn gysylltiedig ag unrhyw ddeunydd a bostiwyd arni.
Mae hyn yn cynnwys colli:
- incwm neu refeniw
- busnes
- elw neu gontractau
- arbedion a ragwelir
- data
- ewyllys da
- eiddo gweladwy
- gwastraffu amser rheolwyr neu swyddfa
Mae gwefannau neu dudalennau gwe y mae’r wefan hon wedi’u cysylltu at ddibenion gwybodaeth yn unig. Nid yw DVLA yn rheoli, yn cymeradwyo, yn noddi neu’n cadarnhau cynnwys ar wefannau neu dudalennau o’r fath, ac eithrio lle nodir fel arall. Nid yw DVLA yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am unrhyw golledion neu gosbau a achosir o ganlyniad i’ch defnydd o unrhyw gysylltiadau neu ddibyniaeth ar gynnwys unrhyw wefan neu dudalennau gwe y mae’r wefan hon yn gysylltiedig â hwy.
Ni allwch fframio na chysylltu’r wefan hon ag unrhyw wefan arall heb ganiatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan DVLA
Diogelu Rhag Firysau
Mae’r DVLA yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd yn ystod pob cam o’r broses gynhyrchu. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gymryd eich rhagofalon eich hun i sicrhau nad ydych, wrth ddefnyddio’r wefan hon, yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n eich gwneud yn agored i bob math o firysau, cod cyfrifiadurol maleisus neu ffurfiau eraill o ymyrraeth a allai ddifrodi eich system gyfrifiadurol chi.
Ni all DVLA dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy’n deillio o’r wefan hon.
Firysau, hacio a throseddau eraill
Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein safle trwy gyflwyno firysau, trojans, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n safle, y gweinydd y mae ein safle yn cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy’n gysylltiedig â’n safle. Rhaid i chi beidio ymosod ar ein safle trwy ymosodiad gwrthod gwasanaeth neu ymosodiad gwrthod gwasanaeth wedi’i ddosbarthu.
Os ydych yn torri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw doriad o’r fath i awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol a byddwn yn cydweithredu â’r awdurdodau hynny trwy ddatgelu pwy ydych iddynt hwy.
Hawlfraint ac atgynhyrchu
Caiff y deunydd sy’n ymddangos ar y wefan hon ei ddiogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Darllenwch dudalen hawlfraint y Goron am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.
Ni chaniateir i chi addasu neu newid yr Wybodaeth neu unrhyw ran ohono, ac eithrio lle y nodir yn benodol.
Nodau perchnogol DVLA yw enwau, delweddau a logos adnabod DVLA. Ni chaniateir copïo na defnyddio ein logos a/neu logos unrhyw drydydd parti arall y ceir mynediad atynt drwy’r wefan hon heb gael caniatâd ymlaen llaw gan berchennog perthnasol yr hawlfraint.
Newidiadau
Mae DVLA yn cadw’r hawl, yn ôl ei disgresiwn, i wneud newidiadau i unrhyw ran o’r wefan hon, yr wybodaeth neu’r telerau hyn. Pe bai DVLA yn newid y telerau hyn, bydd DVLA yn cyhoeddi manylion y newidiadau ar y wefan. Bydd unrhyw newidiadau yn dod i rym wrth iddynt gael eu postio ar y wefan hon.
Diwygiadau i’r Telerau ac Amodau
Efallai y byddwn yn diweddaru’r Telerau ac Amodau hyn o bryd i’w gilydd. Os ydych yn parhau i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl y dyddiad y daw’r newidiadau i rym, mae eich defnydd o’r wefan yn nodi bod eich cytundeb yn cael ei rwymo gan y Telerau ac Amodau newydd.
Toradwyedd
Os bydd unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn annilys, yn annerfod neu’n anghyfreithlon am unrhyw reswm, bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn parhau i fod mewn grym llawn.
Digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth DVLA
Nid yw DVLA yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn lle mae methiant o’r fath yn ganlyniad i amgylchiadau y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
Os bydd DVLA yn ildio unrhyw hawliau sydd ar gael iddo o dan y telerau ac amodau hyn ar un achlysur, nid yw hyn yn golygu y caiff yr hawliau hynny eu hepgor yn awtomatig ar unrhyw achlysur arall.
Cyfraith lywodraethol
Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi o dan y telerau ac amodau hyn yn destun awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Diweddarwyd y Telerau ac Amodau hyn ddiwethaf ar 25 Ebrill 2018. © Hawlfraint